Podlediad i gofnodi ac i drafod achlysur pedair blynyddol Bitcoin, yn hanneriad y sybsidi bloc, sydd newydd daro yn Ebrill 2024.
Byddwn yn trafod seiliau rhwydwaith Bitcoin, ei bolisi ariannol a rhaglen gyhoeddi, a'r cylchoedd llanw a thrai sy'n ailadrodd yn gysylltiedig efo'r hanneriad.
Byddwn yn trafod prisiau damcaniaethol y flwyddyn farchnad tarw flwyddyn nesaf, ag os ydi diwedd y gylchred llanw a thrai yn agos, oherwydd datblygiadau ariannol a llywodraethol fyd-eang ers yr hanneru yn 2020.
Mae'r podlediad yn seiliedig ag y blog hwn. https://annrhefn.blog/2024/04/24/the-bitcoin-halving-redux-2024-and-revisiting-2020-and-2016-the-end-of-bitcoins-boom-and-bust-cycles/
Thursday May 02, 2024
Pod 98: Rownd Derfynol Cwpan Cymru Ifan Gwilym oedd yn Rodney Parade ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru dydd Sul i wylio Cei Connah yn herio'r Seintiau Newydd. Roedd cyfle i gymysgu gyda’r cefnogwyr i weld be oedd barn pawb am weledigaeth y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer y gynghrair yng Nghymru. Ifan Gwilym was at Rodney Parade for Sunday's Welsh Cup final between Connah's Quay and The New Saints. There was an opportunity to mingle with the fans to see what they think about the FAW's vision and strategy for the Cymru Premier.
Wednesday May 01, 2024
Rhodri Davies sy'n cael ymateb i'r cyhoeddiad gan Dylan Morgan o NFU Cymru.
Wednesday May 01, 2024
Da ni'n mynd rownd y byd heno wrth drafod bob dim o Jojo Siwa i Janet, llais yr isymwybod... Mi wnewch chi ddeall pan glywch chi'r sgwrs. Mae'n amser agor y siop!
Wednesday May 01, 2024
Yn y pennod y mis yma, mae David ac April yn siarad am ddilynniau Disney. A dyna fo am Dymor 1! Diolch am wrando hyd yn hyn!
In this month's episode, David and April talk about Disney Sequels. And that's it for Season 1! Thanks for listening so far!
Geirfa:
Dilyniant/Dilyniannau – Sequels/sequels (n.)
Ers tro – For a while (phr.)
Awgrym – Suggestion (n.)
Cyffredin – Common (adj.)
Rhyddhau – to Release (v.)
Diflas – Boring, dull (adj.)
Animeiddiwr/Animeiddwyr – Animator/Animators (n.)
Eleni – This year (n.)
Yn ystod – During (adv.)
Yn lle hynny – Instead (adv.)
Cynulleidfa – Audience (n.)
Tuesday April 30, 2024
Ar Blât – Elinor Snowsill
Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?
Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad Always
Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus
Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for granted
Bore Cothi – Menna Williams
Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honour
Beti a’i Phobol – Shelley Rees
A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw Mai
Aled Hughes – Singapore
Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol. Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol Competitive
Dros Ginio – Llyfrau
Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Tuesday April 30, 2024
Yn y bennod hon clywn gan Elain a Sion o Fusnes Cymru, y ddau ohonynt yn raddedigion Prifysgol Bangor. Yn y bennod hon byddwch yn dod i wybod ychydig mwy am y daith yrfa y maent wedi mynd drwyddi, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am Fusnes Cymru.
https://businesswales.gov.wales/
Instagram - @_business.wales
X (Twitter)- @_businesswales
Youtube - @Businesswales
In this episode we hear from Elain and Sion from Business Wales, both of whom are Bangor University graduates. In this episode you will get to know a bit more about the career journey that they have gone through, as well as some information about Business Wales.
Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Tuesday April 30, 2024
In this episode we hear from Elain and Sion from Business Wales, both of whom are Bangor University graduates. In this episode you will get to know a bit more about the career journey that they have gone through, as well as some information about Business Wales.
https://businesswales.gov.wales/
Instagram: @_business.wales
X (Twitter): @_businesswales
Youtube: @Businesswales
Yn y bennod hon clywn gan Elain a Sion o Fusnes Cymru, y ddau ohonynt yn raddedigion Prifysgol Bangor. Yn y bennod hon byddwch yn dod i wybod ychydig mwy am y daith yrfa y maent wedi mynd drwyddi, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth am Fusnes Cymru.
Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Tuesday April 30, 2024
Megan Williams sy'n clywed am y cynlluniau gan Rhys Evans o gwmni Cig Oen Caron.
Tuesday April 30, 2024
Y Podlediad Trafod CPD Wrecsam Cymraeg Cyntaf Erioed
The First Ever Wrexham AFC Welsh Language Discussion Podcast
Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Monday April 29, 2024