-> Eich Ffefrynnau

Sgíl Alexa 'Welsh Language Podcasts' gan S4C ac Y Pod

Sgíl Alexa Welsh Language Podcasts gan S4C ac Y Pod

Mae 'Welsh Language Podcasts' yn sgíl sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd gyda dyfais Alexa, fel Echo neu Dot.

Mae’r sgíl yma gan S4C ac Y Pod yn caniatáu i ddefnyddwyr Alexa chwilio a gwrando ar bodlediadau trwy siarad Cymraeg.

Mae Welsh Language Podcasts ar gael o Amazon.

Dyma ychydig o help yn ymwneud â defnyddio'r sgíl Alexa 'Welsh Language Podcasts'.

Cyfarwyddiadau

+ Mae Welsh Language Podcasts ar gael o Amazon. Mae angen gosod y sgíl ar eich cyfrif.

Y POD Podlediadau
Cymraeg

+ I wrando ar bodlediad, dywedwch "chwarae", ac yna enw’r podlediad.

+ Gallwch hefyd ddarganfod podlediadau yn ôl categori drwy ddweud "rhestru categorïau".

+ Neu i chwarae podlediad ar hap dywedwch "dwi’n teimlo’n lwcus".

+ Gallwch ofyn i Alexa ailadrodd rhywbeth drwy ddweud "eto".

+ I adael y sgíl dywedwch "hwyl fawr".

+ I fynd yn ôl at y brif ddewisiadau dywedwch gartref / adref.

Cefndir y prosiect

Ar ddechrau 2019 daeth cwmni Mobilise at S4C gyda syniad am sut i wneud treialon o ddefnydd llais Cymraeg ar systemau Alexa. Dros y flwyddyn treialwyd sawl fersiwn o’r dechnoleg ac yn y diwedd penderfynu cydweithio gyda Y Pod ar gyfer creu sgil sain fyddai’n chwarae podlediadau Cymraeg.

S4C

Mae ambell sgíl Alexa yn dweud brawddegau Cymraeg ond hwn yw y tro cyntaf i sgíl adnabod gorchmynion Cymraeg a gallu siarad yn Gymraeg yn ôl.

Lansiwyd y sgíl yn Ebrill 2020 a gobeithiwn y gallwch roi adborth i ni arno gan ein galluogi ni i wella’r profiad ac i wneud rhagor yn y dyfodol. Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru gyda unrhyw sylwadau.

Mae S4C yn cynhyrchu sawl podlediad fel Hansh, Ffit Cymru a Clwb Darllen i ddysgwyr gyda Manon Steffan Ros. Gallwch wedl rhestr lawn ar http://s4c.cymru/podlediadau.

Mae Y Pod yn gwasanaeth podlediadau Cymraeg sydd yn cynhyrchu, hyrwyddo a chefnogi podlediadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cwmni Mobilise Cloud Services yn gwmni o Abertawe sydd yn darparu systemau cyfrifiadurol trwy’r cwmwl. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.mobilise.cloud/

Pam bod enw'r sgíl yn Saesneg?

Mobilise

Yn anffodus nid oes modd cael enw sgíl yn Gymraeg ar hyn o bryd yn ôl telerau Amazon.

Pa bodlediadau sydd arno?

Mae dros 70 o bodlediadau Cymraeg ar gael trwy’r sgíl. Bydd y sgíl yn diweddaru gyda podlediadau newydd dros amser.

Sut ydw i'n ychwanegu fy mhodlediad ato?

Cysylltwch trwy defnyddio gwefan Y Pod.

Ydy hyn yn golygu gall Alexa siarad Cymraeg nawr?

Na, yn anffodus dyw hyn ddim yn golygu bod chi’n gallu archebu nwyddau trwy Alexa neu chwarae caneuon yn Gymraeg eto. Dim ond o fewn y sgíl penodol yma mae modd defnyddio Cymraeg, ond os bydd y sgil yn boblogaidd gobeithiwn weld rhagor o ddefnydd Cymraeg ar y platfform.

The Alexa 'Welsh Language Podcasts' skill from S4C and Y Pod

Here's some information to help you to use the Alexa skill 'Welsh Language Podcasts'.

This skill from S4C and Y Pod helps you to find and listen to Welsh language podcasts.

To listen to a podcast, say "chwarae", followed by the name of the podcast.

You can also find podcasts by category by saying "rhestru categorïau".

Or to play a random podcast say "dwi’n teimlo’n lwcus".

You can ask Alexa to repeat something by saying "eto".

To exit the skill say "hwyl fawr".

The Welsh Language Podcasts skill is available from Amazon.

Cofion
Tîm Podlediadau S4C ac Y Pod