-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Beti a'i Phobol

Beti a

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Gwefan: Beti a'i Phobol

RSS

Chwarae Beti a

Jonathan Roberts

Jonathan Roberts o’r Bala yn wreiddiol sydd yn gweithio fel Cyfieithydd i gwmni cyfreithiol mawr yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd yw gwestai Beti George.

Yn 14 mlwydd oed, ‘roedd o’n ysu i symud o’r Bala i fyw mewn dinas fawr, ac fe fu’n byw yn Lerpwl a Llundain am gyfnod cyn teithio i Frasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas Rio. Mae’n byw mewn fflat sydd yn edrych ar y cerflun o Crist ar y Mynydd. Yn ystod covid fe symudodd am gyfnod i Bortiwgal ac mae’n sôn am ei fywyd diddorol ac yn dewis 4 darn o gerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddo.

Sun, 14 Apr 2024 18:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Y Parchedicaf Andy John Archesgob Cymru

Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae’r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur.

Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym Mharis a’i Fam yn cwblhau ei gradd ym Mharis yr un pryd. Cyfarfu’r ddau felly. Pan oedd Andy’n rhyw ddwyflwydd cafodd ei Dad waith yn gweithio ym Mhrifysgol Dunedin yn Seland Newydd a bu’r teulu’n byw yno am ddwy flynedd, ac mae'n siarad am y cyfnod yma.

Cawn hanesion ei fywyd ac fe fydd yn sôn am ei obaith ar gyfer yr Eglwys. Gobaith Andy ar gyfer y dyfodol ydi i’r Eglwys fod yn hyderus a gallu llawenhau yn ei hunain. Ond hefyd o safbwynt y wlad, fod pobl Cymru yn gallu wynebu’r dyfodol efo gobaith ac i fwynhau'r pethau Cymraeg sy’n ein tynnu ni at ein gilydd.

Sun, 31 Mar 2024 18:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Geraint Jones

Geraint Jones cyn-swyddog cyswllt amaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chyn aelod o’r band Rocyn yw gwestai Beti George. Fe fu'n gweithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro am 40 mlynedd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a ffermio. Mae bellach yn gweithio fel bownsar neu geidwad drysau gyda'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi wynebu dau gyfnod o salwch difrifol, ac yn siarad yn agored iawn am yr heriau a wynebodd.

Sun, 24 Mar 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Hazel Thomas

Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain. Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorchester. Cawn hanesion difyr bywyd y ferch o Drefach, aeth i weithio i Lundain o gefn gwlad Cymru yn y 70'au. Cawn hanes rhai o'r bobol enwog y bu'n coginio iddynt gan gynnwys Shirley Bassey.

Sun, 17 Mar 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.

Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd.

Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.

Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011.

"Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."

Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?

Tue, 12 Mar 2024 08:28:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Dr Caroline Turner

Cyn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys, Dr Caroline Turner yw gwestai Beti George. Bu'n was sifil yn y Cynulliad fel roedd e arfer cael ei alw, ac fe fu'n 'Whistle Blower' unwaith hefyd pam doedd pethe ddim fel y dyle nhw fod yng Nghyngor Môn. Mae hi'n wreiddiol o Lanfachraeth, Ynys Môn. Mae'n rhannu straeon bywyd gyda Beti George ac yn dewis 4 cân sydd yn cofnodi cyfnodau mewn bywyd iddi gan gynnwys Enfys, Elin Fflur ac anthem Cyngor Ewrop.

Sun, 03 Mar 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Adam Jones

Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George.

Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban. “Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol".

Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Coleg Cymraeg, ond roedd rhywbeth ar goll, ac roedd yn awchu am fod allan ar y tir neu yn yr ardd. Ar ôl prynu ei gartref cyntaf gyda Sara, sy’n wraig iddo nawr, dechreuodd ailwampio’r ardd, a rhannu ei waith ar Instagram.

Sun, 25 Feb 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Miriam Lynn

Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol.

Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Rockies bob penwythnos. Ar ôl graddio gwnaeth Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu yn gweithio yn cefnogi pobl ifanc LGBTQ+.

Fe gafodd ddiagnosis o MS pam yn 37 mlwydd oed, ac mae hynny wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi addasu ei ffordd o fyw, ac yn gweithio rhan amser. Mae hi’n hanner Iddewes, bu’n perthyn i’r Crynwyr a nawr Bwdïaeth sydd yn rhoi iddi hapusrwydd a llonyddwch. Mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gân.

Sun, 11 Feb 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Meleri Wyn James

Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda’i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Meleri oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Sun, 04 Feb 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Guto Bebb

Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.

Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd. Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.

Sun, 28 Jan 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy