Podlediad Cipolwg

Ymunwch â'r comedïwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn Rhyl, wrth iddi gymryd ‘cipolwg’ ar y byd opera. Caiff Lorna sgwrs â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa wrth archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol. | Join comedian, journalist and lifelong opera fan Lorna Prichard as she glances into the world of opera. Lorna interacts with singers, conductors, experts and audience members whilst investigating the weird and wonderful side of opera and classical music.

Gwefan: Cipolwg

Tanysgrifio

Pod diweddaraf: Madam Butterfly

Lawrlwythwch

Mae Lorna yn cwrdd â'r cyfarwyddwr Angharad Lee i drafod ei gwaith ar gynhyrchiad diweddar o Madam Butterfly. Mae'r clasur parhaus gan Puccini hefyd yn ganolbwynt diodydd egwyl a chwestiynau'r wythnos hon gyda Dramaturg WNO Elin Jones.

Dyddiad Cyhoeddi: Thu, 03 Sep 2020 00:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad

Teitl: A Vixen's Tale

Mae Lorna yn cwrdd â'r soprano Meriel Andrew i drafod uchafbwyntiau ei gyrfa a darganfod sut brofiad oedd rhannu'r llwyfan gyda'i merch Martha mewn perfformiad diweddar o The Cunning Little Vixen.

Ein helpu ni i ddod i'ch adnabod chi - https://www.surveymonkey.com/r/cipolwg

___
The Cunning Little Vixen ‘Overture’ - WNO Orchestra  

The Cunning Little Vixen ‘Bezi liska taboru’ - WNO Children’s Chorus and Orchestra 

The Cunning Little Vixen ‘Vixen’s aria’ - Aoife Miskelly and WNO Orchestra 

Excerpts from Macbeth - WNO Orchestra and Chorus 

Rhondda Rips it Up! - Elena Langer and Emma Jenkins, the WNO Chorus and Orchestra  

The Magic Flute ‘Queen of the Night aria’- WNO Chorus and Orchestra  


Lawrlwythwch

Dyddiad cyhoeddi: Thu, 20 Aug 2020 00:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Gwleidyddiaeth mewn Opera

Lorna sy'n trafod rôl gwleidyddiaeth mewn opera a cherddoriaeth glasurol. Pwnc diodydd egwyl a chwestiynau yr wythnos hon yw campwaith Verdi, Rigoletto.

Ein helpu ni i ddod i'ch adnabod chi - https://www.surveymonkey.co.uk/r/cipolwg

__
Rigoletto -
La Scala
In Parenthesis - Ian Bell, Opera Cenedlaethol Cymru
Jephtha ‘Hide thou hated beams’ - Kenneth McKellar, Royal Opera House  


Lawrlwythwch

Dyddiad cyhoeddi: Thu, 13 Aug 2020 00:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Beth am Strauss?

Lorna yn cwrdd â'r Soprano Fflur Wyn ac yn archwilio ei chysylltiadau â gwaith Richard Strauss. Yn ddiweddarach, âi Lorna a'i Mam am ddiod mewn egwyl rithwir yn ystod perfformiad wedi'i recordio o Der Rosenkavalier. Ac mae Elin yn ôl gyda chwestiynau yn archwilio repertoire amrywiol Strauss.



Lawrlwythwch

Dyddiad cyhoeddi: Thu, 30 Jul 2020 00:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Rhifyn arbennig Cav & Pag (Rhan 1)

Mae Lorna yn sgwrsio gyda'r tenor clodwiw Gwyn Hughes Jones am ei  yrfa llewyrchus. Yn ymuno gyda ni am ddiod egwyl rhithiol mae gwestai arbennig iawn, Mam Lorna! Maent yn gwylio a thrafod perfformiad o Cavalleria Rusticana, sef ffocws cwestiynau'r wythnos yma gan ein Dramaturg, Elin Jones.

Dyddiad cyhoeddi: Wed, 15 Jul 2020 23:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Mae cerddoriaeth gyda chi drwy'r amser

Mae Lorna yn cwrdd â Sian Meinir o Gorws WNO ac yn trafod ei chysylltiad â rhai o brosiectau ieuenctid a chymuned cyffrous Opera Cenedlaethol Cymru. Daw diodydd egwyl yr wythnos hon â thro yn y gynffon, wrth i Lorna ryngweithio ag aelodau'r gynulleidfa yn dilyn cyngerdd cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yn y Galeri, Caernarfon. Ac yntau ar fin troi'n 250, Beethoven yw testun cwestiynau opera'r wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: Wed, 01 Jul 2020 18:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Mozart yn y Jyngl

Mae Lorna yn cwrdd â'r bariton John Ieuan Jones ac yn ailddarganfod ei hangerdd tuag at Mozart. Rydym wedyn yn ymuno â hi ar gyfer diodydd egwyl yn ystod The Marriage of Figaro. Beth sy'n sicrhau bod y ffefryn Mozart hwn yn sefyll ei dir? Ac yn ddiweddarach, dewch i wybod popeth sydd angen ei wybod am y cyfansoddwr plant athrylithgar gydag Elin. A ysgrifennodd Mozart yr agorawd i Don Giovanni ar ddiwrnod y perfformiad mewn gwirionedd?
______
Credydau:
The Marriage of Figaro, ‘Overture’, Welsh National Opera
The Marriage of Figaro, ‘Voi che sapete’, cond. Kleiber, 1955
The Marriage of Figaro, ‘Sull’aria’, cond. Kleiber, 1955
Don Giovanni, ‘Overture’, Welsh National Opera
Don Giovanni, ‘Don Giovanni, a cenar teco’, cond. Krips, 1955


Dyddiad cyhoeddi: Wed, 24 Jun 2020 18:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Y Fenyw Arall

Yn awyddus i wybod mwy am rôl merched ym myd opera, caiff Lorna sgwrs â'r Soprano Elin Pritchard. Gyda'i gilydd maen nhw'n trafod y cymeriadau benywaidd mwyaf dylanwadol ym myd opera. A pha le gwell ar gyfer diodydd egwyl yr wythnos hon na chynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen, sy'n cynnwys ymddangosiad cyntaf Elin fel Micaëla. Yn nes ymlaen, bydd dramodydd Opera Cenedlaethol Cymru, Elin Jones, yn cael aduniad â Lorna ar gyfer ychydig o gwestiynau ynghylch Carmen.
______
Keen to find out more about the role of women in opera, Lorna sits down with Soprano Elin Pritchard. Together they discuss the most influential female characters in opera. And what better place for this week’s interval drinks than WNO’s new production of Carmen, in which Elin makes her debut as Micaëla. Later, WNO’S Dramaturg Elin Jones reunites with Lorna for a spot of Carmen trivia. 

Music credits:
La Traviata ‘Brindisi’MIT Symphony Orchestra
Carmen ‘Je dis que rien ne m'épouvante’; ‘Parle-moi de ma mere!’ – Parlaphone (1960)


Dyddiad cyhoeddi: Wed, 17 Jun 2020 18:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad


Teitl: Campwaith yr Eidal

Yr wythnos hon, caiff yr arweinydd byd enwog Carlo Rizzi sgwrs â Lorna ynghylch poblogrwydd parhaus Giuseppe Verdi. Dadansoddi opera Verdi sydd wedi'i hailddarganfod mae LornaLes vêpres siciliennes yn ystod diodydd egwyl yr wythnos hon. A down i wybod beth sy'n gwneud Verdi yn un o gampweithiau gorau'r byd opera drwy gwestiynau am opera gan Elin Jones, dramodydd ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.

___________

This week, world-renowned conductor Carlo Rizzi chats with Lorna about the enduring popularity of Giuseppe Verdi. Lorna dissects one of Verdi’s rediscovered operas Les vêpres siciliennes during this episode’s interval drinks. And we find out what makes Verdi the ‘big cheese’ of opera with some opera trivia from Elin Jones, dramaturg for WNO .

Dyddiad cyhoeddi: Tue, 09 Jun 2020 21:00:00 +0100

Tudalen Y Podlediad