-> Eich Ffefrynnau

Podlediad CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU

Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔

Gwefan: CYMERIADAU CYMRU

RSS

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: GWAWR EDWARDS-PHILLIPS

Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu.

Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!

Sun, 25 Jun 2023 12:04:14 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: MARI GRUG

Fi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!😂

Sun, 18 Jun 2023 08:00:35 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: PHIL WYMAN

Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo’n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.

Sun, 11 Jun 2023 08:00:02 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: ELIN PRYDDERCH

Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com

Sun, 04 Jun 2023 08:00:52 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: MILLIE-MAE ADAMS (MISS CYMRU 2023)

Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!

Sun, 21 May 2023 08:00:04 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: HELEDD FYCHAN, AS

I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli’r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!

Sun, 14 May 2023 08:00:13 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: CEFIN ROBERTS

Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !

Sun, 30 Apr 2023 08:00:22 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: EZZATI ARAFFIN

Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.

Sun, 23 Apr 2023 08:00:16 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: RICHARD ELIS

Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.

Sun, 02 Apr 2023 08:00:39 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae CYMERIADAU CYMRU

CYMERIADAU CYMRU: BECA BROWN

Dim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.

Sun, 26 Mar 2023 08:00:44 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy