-> Eich Ffefrynnau

Y Podlediadau Diweddaraf

Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith - Pennod 39 - Y Gymraeg a Byd Newydd Print

Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6) Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print. * * * The Welsh Language and the New World of Print This episode focuses on that all-important technological development, the printing press. Given that discussing the history of Welsh literature is this podcast’s aim, we should see the arrival of this medium as an incredibly transformative milestone as far as creating and disseminating literature is concerned. The first Welsh book was printed in 1546, and we explain the title-which-is-not-a-tile normally used in referring to it, Yn y Llyfr Hwn (‘In This Book’). Sir John Price was responsible for producing this landmark Welsh volume, but we note that he was a character who helped destroy some of Wales’ literary resources in addition to being responsible for pushing the Welsh language across the threshold of the world of print. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Graham C. G. Thomas, ‘From Manuscript to Print – II. Print’, yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A Guide to Welsh Literature 1530-1700 (1997). - R. Geraint Gruffydd, ‘Yny lhyvyr hwnn (1546): the earliest Welsh printed book, Bulletin of the Board of Celtic Studies, 23.1 (Mai, 1969).

Thursday April 25, 2024

Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd - VAR i Gymru!

Y dyfarnwr Iwan Arwel sy'n egluro wrth Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sut yn union fydd "VAR Lite" yn cael ei ddefnyddio yn y Cymru Premier. Yn amlwg, mae Mal wrth ei fodd bod y dechnoleg ddadleuol yn cael ei gyflwyno i'r gynghrair!

Thursday April 25, 2024

Bwletin Amaeth

Bwletin Amaeth - Rheoliadau Ymrwymiad Delio'n Deg

Rhodri Davies sy'n holi Brian Walters o Undeb Amaethwyr Cymru am y cytundebau llaeth.

Thursday April 25, 2024

I Mewn i

I Mewn i'r Gôl - Pennod 44: Gwobrau y Tymor

Y Podlediad Trafod CPD Wrecsam Cymraeg Cyntaf Erioed

The First Ever Wrexham AFC Welsh Language Discussion Podcast



Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.

Wednesday April 24, 2024

Sgorio

Sgorio - Episode 121: Pod 97: Strategaeth 2024-30 Cymru Premier JD

Pod 97: Strategaeth 2024-30 Cymru Premier JD Yr wythnos yma mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi datgelu eu gweledigaeth ar gyfer y gynghrair bêl-droed yng Nghymru. Ar y Pod, cawn glywed wrth Jack Sharp (Pennaeth Cynghreiriau Domestig) a chael ymateb gan Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym. This week the Football Association of Wales revealed their vision for the football league in Wales. On the Pod, we hear from Jack Sharp (Head of Domestic Leagues) and get the initial response from Sioned Dafydd and Ifan Gwilym.

Wednesday April 24, 2024

Bwletin Amaeth

Bwletin Amaeth - Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Megan Williams sy'n sgwrsio am y cynllun gydag Alison Harvey, arweinydd y rhaglen.

Wednesday April 24, 2024

Cwins

Cwins - Siarad Siop - Pennod 1

Doedden ni methu sdopio siarad, RuPaul's Dragrace neu beidio...felly dyma gangen o'n podlediad lle NAD OES rhaid i chi fod yn dilyn y gyfres i ymuno yn yr hwyl. Mae Siarad Siop yn ychwanegiad bach i'n cymuned Cwîns lle fyddwn ni'n trafod materion cymdeithasol a hel straeon o wythnos i wythnos (diwylliant pop yn bennaf). Croeso i'r teulu, Cwîns. Mae'r siop nawr ar agor...

Wednesday April 24, 2024

Ebeneser Caerdydd

Ebeneser Caerdydd - 21 Ebrill 2024 - Pnawn - Effesiaid 4 Adnodau 1 - 16 - Alun Tudur

21 Ebrill 2024 - Pnawn - Effesiaid 4 Adnodau 1 - 16 - Alun Tudur by Ebeneser Caerdydd

Tuesday April 23, 2024

Ebeneser Caerdydd

Ebeneser Caerdydd - 21 Ebrill 2024 - Bore - Mathew 18 Adnodau 21 - 27 A Salm 67 - Alun Tudur

21 Ebrill 2024 - Bore - Mathew 18 Adnodau 21 - 27 A Salm 67 - Alun Tudur by Ebeneser Caerdydd

Tuesday April 23, 2024

Y Dihangiad

Y Dihangiad - STEVIE, A DIWEDD CLASURON Y GWANWYN

# Buddugoliaeth hanesyddol Stevie Williams yn Fleche Wallonne, gweddill y clasuron bryniog, a dau Gymto arall yn Nhaith yr Alpau.

Tuesday April 23, 2024

Darganfod