-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Sionedigaeth

Sionedigaeth

Mix tape arbrofol o brofiadau i'ch clustiau gan un o griw podcast yr Haclediad. Ymunwch â Sioned Mills am sgyrsiau am ddiwylliant, fywyd merched, bywyd Cymraeg, dumpster fire y byd a sbrinclin o rianta. An amateur Welsh language chat podcast from Sioned Mills

Gwefan: Sionedigaeth

RSS

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 6: Gêms, Geraint a Tafarn swnllyd

Diolch am gadw Sionedigaeth yn eich feeds! Fel gwobr, a bach o sioc, dyma bennod efo Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau rhyngwladol Shloc. Mae Geraint wedi bod yn byw a gweithio yn Japan ers 8 mlynedd, a wnes i ddal fyny efo/cornelu fo yn nhafarn y Grange, Caerdydd i'w holi am... wel toilets sy'n chwarae cerddoriaeth a stwff boncyrs cŵl arall hefyd, mwynhewch.

o.n. sori unwaith eto am y sain, dwi wir wir yn trio gwella, ond doedd eistedd wrth y drws yn y bar ffrynt ddim yn syniad da o gwbl, a dwi wedi dysgu ngwers!

Tue, 28 May 2019 21:23:26 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 5 - Tân a Tarot

Pennod yn dathlu gŵyl ganol gaeaf gyda'r arbennig Sara ydy hon - yn dilyn calendr rhod y flwyddyn, mae'n amser agosáu at y tân a mynd i hen fyd ysbrydol. Da ni'n sgwrsio am wrachyddiaeth, hen gredoau, dod yn ôl at eich coed a dwi'n cael fy nhro cyntaf ar gardiau tarot... jyst y peth i wrando wrth gyrlio o flaen y tân gyda diod boeth efo siot o wirod/CBD ynddo, mwynhewch!

Mon, 17 Dec 2018 17:41:31 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 4: Brynprov

(Ailddarllediad, gyda'r sain llawn!) Popiwch y bennod ddiweddaraf yn eich clustiau i gael clywed sgwrsweliad cwtshlyd gyda'r raconteur rhyngwladol, Bryn Salisbury. Fel cyfuniad o Beti a'i phobl a sesiwn therapi improv, dwi'n siarad gyda Bryn am hunan ofal, cefnogi’n gilydd, bod allan yn y gwaith a sut i golli dy hun a ffindio dy hun trwy befformio. Gallwch chi ffindio Bryn ar @Bryns Diolch i bawb sy'n lawrlwytho, ac ymddiheuriadau am y glitches sain - dwi dal i weithio ar fy sgilz golygu

Thu, 01 Nov 2018 14:37:20 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 3: Y cwestiwn mwya ar Twitter Cymraeg

Recordiad ar hap yn nigwyddiad BAFTA Cymru gyda Lynwen Brennan, pennaeth Lucasfilm - ges i ofyn cwestiwn a phopeth! Ymddiheuriadau am safon y sain eto, diolch i bawb am wrando, dal i chwilio am theme tune os oes unrhyw syniadau genno chi! Anfonwch unrhyw adborth draw at @llef - bydd hi'n gret i glywed genno chi!

Wed, 01 Aug 2018 11:26:30 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 2: Codi Llais a Candi Fflos yn Tafwyl

Mae experiments sain Sioned yn parhau - y tro yma yn Tafwyl. Combo cyffroes o gyfweliadau, plant ciwt yn canu, merits candi fflos vs Tango Ice Blast a sesiwn llyfr Codi Llais . Diolch i'r Lolfa am gael recordio gyda Rhiannon Marks, Mabli Jones, Kizzy Crawford a Mari McNeill - ac wrth gwrs Menna Machreth y golygydd. Diolch massif i Aled Mills (@mr_llef) am gymysgu'r sain a trio gwneud recordiad y sesiwn Codi Llais yn llai o lanast. Mae'r mic newydd ar ei ffordd, felly maddeuwch i fi am y niwed i'ch clustiau. Bydd mwy i ddod dros yr haf!

Fri, 20 Jul 2018 14:29:28 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 1.5 - Beicoleg

Mini bennod arbrofol, iei! Wedi' recordio ar fy commute adre ar y beic mewn gwres llethol (cam arall ar y daith i fod yn LA podcaster)

Wed, 04 Jul 2018 12:01:07 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sionedigaeth

Pennod 1: Vive la résistance gyda Sara Huws

Croeso i bennod arbrofol gyntaf Sionedigaeth! Podcast misol gyda Sioned Mills. Tro yma, gewch chi antur glywedol amatur efo Sara Huws, digidwraig, crefftwraig, raconteur a chyd-sefydlwraig East End Women's Museum. Ymddiheuriadau garw i Yann Tiersen am ddwyn ei gerddoriaeth i roi naws faux-Ffrengig i'r sioe!

Wed, 27 Jun 2018 11:32:37 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch