-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Syniadau Iach

Syniadau Iach

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Gwefan: Syniadau Iach

RSS

Chwarae Syniadau Iach

Dyfodol digidol y GIG

Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.

Mon, 11 Jul 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad?

Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod.

Mon, 04 Jul 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru?

Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod.

Mon, 27 Jun 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio

Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod.

Mon, 20 Jun 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol?

Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod.

Mon, 13 Jun 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Arloesedd yw’r allwedd i Gymru iachach - gydag Eluned Morgan AS

Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig.

Mon, 06 Jun 2022 23:00:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn.

Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig.

Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar PPE, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu.

Dywed Pryderi: “ Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.”

Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-Sparc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19.

Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd.

“Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen,” meddai.
Gallwch ddarllen mwy am waith Pryderi ag M-Sparc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn ei flog yma (gellid lincio i blog Pryderi )

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Mon, 06 Jul 2020 22:45:16 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Lledaenu a Graddfa

Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai.

Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaeniad a Graddfa- lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd gyda’r Comisiwn Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle daeth tua hanner cant o arloeswyr Cymru a thu hwnt ynghyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Yn ôl Joe McCannon, un o sefydlwyr y Billions Institute, cwmni o’r Unol Daleithiau America oedd yn arwain y sesiynau, dim gweithio 10 gwaith yn fwy caled i gyrraedd 10 gwaith fwy o bobl sydd angen. Mae‘r cwmni wedi helpu sefydliadau mawr i feddwl yn wahanol wrth gyflwyno newidiadau ar raddfa eang.

“You have to really think very deliberately about how you tap into others and their creativity and their ideas and effectively deputize others to carry the work forward,” medd Joe McCannon.

Clywn ni hefyd gan rai oedd wedi mynychu’r Academi fel Dr Arfon Williams sydd wedi dechrau gweithio mewn ffordd gwahanol yn ei feddygfa yn Nefyn ac sydd am gyflwyno’r model hwn ar draws Cymru. “Be mae nhw’n gwneud yw mynd a chi allan o’ch comfort zone a gwneud ichi feddwl yn wahanol,” meddai.

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Wed, 03 Jun 2020 22:50:16 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Arloesi Digidol

Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr Rhodri Griffiths ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu datblygu technolegau a meddalwedd newydd er budd cleifion yng Nghymru.

Gyda rhai o sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn fwy na 20 mlwydd oed, yr her yn ôl Dr Elin Davies yw moderneiddio heb i’r sustemau presennol fethu. “Y broblem yw na allwch chi adeiladu palas os taw seiliau byngalo sydd yma.”

Mae Dr Davies yn credu bod angen mwy o addysg ymhlith y cyhoedd i gael gwared ar y camddealltwriaeth ynglŷn â diogelwch data. “Er lles eich iechyd, er lles y gymuned, rhaid i bobl sylweddoli bod ni angen y data yma i wella ein gwasanaethau i roi'r gofal gorau.” Mae’r Cynulliad mewn sefyllfa arbennig o dda ychwanega hi, i fuddsoddi i wella’r sylfaen sydd ei angen i brosesi ddata o safon dda. “O roi rheolau ar gyfer ‘gatekeeping’ yn ei lle, y gallwn ni i gyd ennill o fuddsoddiad felly.”

Yn ôl Dyfan Searrell, sy’n ddylunydd ac arloeswr yn y diwydiant technoleg gwybodaeth a gwasanaethau, mae gan Gymru gyfle gwych oherwydd ei maint i ddangos bod modd cyflwyno technoleg newydd a’i brofi cyn ei allforio i wledydd eraill. “Os na fyddwn ni’n ei wneud o, mi fydd cwmni mawr arall yn prynu’i ffordd i mewn i adeiladu’r sylfaen yna… ac mi fydd y cyfle wedi mynd,” meddai.

Rhodri Griffiths o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Thu, 26 Mar 2020 23:45:07 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Syniadau Iach

Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran

Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro.

Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd.

“Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud Cymru yn le hawdd i fusnesau arloesol weithio….. mae’n dda bod ni’n gallu gwneud pethau ar raddfa genedlaethol.”

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, astudiodd Dafydd feddygaeth yng Nghaerdydd, ac yna hyfforddiant llawfeddygol yng Nghymru. Cyn sefydlu Concentric, ymgymerodd â chymrodoriaethau deallusrwydd artiffisial yn Babylon Health yn Llundain, ac mae'n dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ecosystem technoleg iechyd sy'n ehangu yng Nghymru.

Mae cwmni Concentric wedi datblygu llwyfan sy'n cynorthwyo cleifion sy'n wynebu llawdriniaeth i wneud penderfyniadau ar y cyd â'u clinigwyr. Mae Dafydd o’r farn taw prynwriaeth o’r fath yma fydd un o themâu pwysicaf y byd iechyd yn y dyfodol ynghyd â defnyddio data i gefnogi penderfyniadau.

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Mon, 12 Aug 2019 21:00:04 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy