-> Eich Ffefrynnau

Telerau prosiect Y Pod

Trwy ddefnyddio Y Pod yr ydych yn cytuno i'n termau:

Mae Y Pod ar gyfer eich gwybodaeth yn unig. Mae'n bosib bydd y cynnwys yn newid heb roi wybod.

Mae defnyddio prosiect Y Pod ar ddyletswydd eich hunain, nid ydym yn gyfrifol am eich defnydd o'r cynnwys. Mae'n gyfrifoldeb eich hun i wneud yn siwr bod unrhyw cynnwys, gwasanaethau, neu gwybodaeth ar gael trwy Y Pod yn cwrdd ag eich anghenion.

Mae Y Pod yn cynnwys dolenni i wefannau arall. Mae'r ddolenni ar gyfer eich gwybodaeth. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau. Nid oes yna ddyletswydd arnom ar gyfer y gwefannau na'r dolenni ynddyn.

Dolenni ar brosiect Y Pod

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau sydd yn gysylltiedig ag Y Pod. Nid ydym yn gysylltiedig a sylwadau neu barn gwefannau arall. Nid ydym yn cymeradwyo barn, sylwadau neu cynnwys y gwefannau sydd yn gysylltiedig a phrosiect Y Pod.

Nid ydym yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd neu gynnwys gwefannau sydd yn gysylltiedig gyda phrosiect Y Pod.

Eich cyfrifoldeb chi yw darllen a deall polisïau preifatrwydd gwefannau sydd yn gysylltiedig â phrosiect Y Pod.

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am bolisïau preifatrwydd neu gynnwys unrhyw wefan arall ond prosiect Y Pod.

Polisi Preifatrwydd Y Pod Cyf.

Mae Y Pod Cyf. yn parchu preifatrwydd pob unigolyn sydd yn rhannu gwybodaeth gyda ni.

Mae eich data yn bwysig iawn a byddwn yn edrych ar ôl eich gwybodaeth yn ofalus yn unol â deddfau diogelu data a phreifatrwydd.

Mae’r Datganiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu’r wybodaeth y bydd Y Pod Cyf. yn ei chasglu a’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno.

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi cyfarwyddyd i chi hefyd ynghylch beth i’w wneud os nad ydych eisiau i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chasglu na’i rhannu.

Gwybodaeth Bersonol

Bydd Y Pod Cyf. ond yn casglu Gwybodaeth Bersonol os ydych yn ei rhoi i ni o’ch gwirfodd trwy cysylltu ag Y Pod Cyf.

Bydd Y Pod Cyf. bob amser yn dweud wrthych pam yr ydym yn casglu eich gwybodaeth mewn ffordd sydd yn glir ac yn hawdd i’w deall.

Byddwn yn dweud wrthych ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi os ydych yn gofyn i ni amdani.

Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch ofyn i ni ddileu, diweddaru neu gywiro unrhyw ddata amdanoch chi.

Enghreifftiau o’r wybodaeth a gesglir gan Y Pod Cyf.

Y math o wybodaeth bersonol a manylion cyswllt a gesglir gennych chi yw eich enw, a chyfeiriad e-bost.

Bydd y data yma’n cael ei anfon atom pan fyddwch yn cysyllty trwy ein ffurflen cysylltu.

Os ydych o dan 16 oed, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan eich rhiant neu warchodwr pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.

Mynediad I'ch Data

Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003 a 2011 yw’r prif ddeddfau sydd wedi eu sefydlu yn y DU i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol a’ch preifatrwydd yn cael eu diogelu.

Gellir ymarfer eich hawl i gael mynediad yn unol â’r Deddfau hyn. Ar unrhyw adeg, gallwch wneud cais yn amodol ar ffi o £15 i dalu ein costau yn darparu manylion y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi:

Gwybodaeth Arall (amhersonol) a Gesglir yn Awtomatig

Ar adegau, gall Y Pod Cyf. gasglu gwybodaeth amdanoch chi le na ellir eich adnabod yn bersonol.

Mae enghreifftiau o’r math yma o wybodaeth yn cynnwys y math o Borwr Rhyngrwyd yr ydych yn ei ddefnyddio, y math o system gweithredu cyfrifiadur yr ydych yn ei defnyddio ac enw parth y wefan y gwnaethoch gysylltu oddi wrthi i’n gwefan ni.

Cwcis

Pan fyddwch yn edrych ar un o’n gwefannau, efallai y byddwn yn storio rhywfaint o wybodaeth ar eich cyfrifiadur.

Bydd y wybodaeth hon ar ffurf “Cwci” neu ffeil debyg a bydd yn ein helpu mewn nifer o ffyrdd.

Mae Cwcis yn ein galluogi i deilwra gwefan neu hysbyseb i gyd-fynd â’ch diddordeb neu hoffterau yn well.

Trwy ddefnyddio Cwcis mae Y Pod yn eich galluogi i greu restr ffefrynnau i fwynhau eich hoff bodlediadau Cymraeg.

Gyda’r rhan fwyaf o Borwyr Rhyngrwyd, gallwch ddileu Cwcis o gof parhaol eich cyfrifiadur, rhwystro pob Cwci, neu dderbyn rhybudd cyn bod Cwci’n cael ei storio.

Gweler cyfarwyddiadau eich Porwr i ddysgu mwy am y swyddogaethau hyn.

Diogelwch a Throsglwyddo Gwybodaeth

Bydd eich gwybodaeth lle gellir eich adnabod yn bersonol yn cael ei storio yn ein cronfeydd data a leolir yn y Deyrnas Unedig.

Ni fydd Y Pod Cyf. yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw un arall.

Mae Y Pod Cyf. wedi ymrwymo i gadw’r data yr ydych yn ei roi i ni yn ddiogel a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich gwybodaeth lle gellir eich adnabod yn bersonol rhag mynd ar goll, cael ei chamddefnyddio neu gael ei newid.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth cyhyd â phosibl at y diben y’i chasglwyd yn wreiddiol ac am ei fod yn gyfreithiol i ni ei chadw.

Efallai byddwn yn diweddaru’r polisi preifatrwydd a chwcis hyn o bryd i’w gilydd a byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar ein gwefan pod.cymru.

Newidiadau i'r termau yma

Fe all Y Pod newid y telerau yma yn rheolaidd fel y dymunwn. Chi sydd yn gyfrifol am siecio y telerau ac amodau yma bob tro cyn ddefnyddio Y Pod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut mae Y Pod yn trin eich gwybodaeth bersonol, neu os hoffech chi wybod mwy am eich hawliau, cysylltwch.